Cyfeiriadedd rhywiol a gwasanaeth milwrol

300px      Gwledydd nad ŷnt yn gwahardd pobl hoyw-agored o wasanaethu yn y lluoedd arfog, gan gynnwys gwledydd lle mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon.     Gwledydd gyda gwaharddiad ar gyfunrywiolion yn y lluoedd milwrol.     Dim byddin sefydlog

Mae gan luoedd milwrol y byd amrywiaeth o agweddau tuag at hoywon, lesbiaid a deurywiolion. Mae rhai lluoedd milwrol Gorllewinol wedi diddymu polisïau sy'n gwahardd aelodau o leiafrifoedd rhywiol; o'r 25 gwlad sy'n cyfrannu'n filwrol yn NATO, caniateir mwy nag 20 i hoywon, lesbiaid a deurywiolion gwasanaethu; o aelodau arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, mae dau (y Deyrnas Unedig a Ffrainc) yn gwneud hynny. Nid yw'r tri arall yn gyffredinol yn dilyn yr agwedd hon: mae Tsieina yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn llwyr, mae Rwsia yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn ystod heddwch ond yn caniatáu rhai dynion hoyw i wasanaethu yn ystod amser rhyfel (gweler isod), ac mae'r Unol Daleithiau yn caniatáu i hoywon a lesbiaid wasanaethu, ond dim ond os ydynt yn cadw eu cyfeiriadedd rhywiol yn gyfrinachol.

Mae polisïau ac agweddau tuag at hoywon a lesbiaid yn y lluoedd milwrol yn amrywio'n eang yn rhyngwladol. Caniateir nifer o wledydd i bobl hoyw-agored gwasanaethu ac wedi rhoi iddynt yr un hawliau a breintiau sydd gan eu cymheiriaid heterorywiol. Nid yw nifer o wledydd yn gwahardd neu gefnogi aelodau hoyw a lesbiaidd i wasanaethu, a pharheir grŵp bach i wahardd personél cyfunrywiol yn llwyr.

Tra bo cyfunrywioldeb yn y lluoedd milwrol wedi bod yn bwnc gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau, nid yw hyn yn y mater mewn nifer o wledydd. Yn gyffredinol, mae rhywioldeb yn y diwylliannau yma yn cael ei ystyried yn agwedd fwy bersonol o hunaniaeth unigolyn nag y ystyrir hi yn yr Unol Daleithiau.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search